Navigation
Home Page

Manylion Cofrestru Clwb Brecwast Tymor y Gwanwyn 2021

Os oes angen lle ar eich plentyn yng nghlwb brecwast tymor y gwanwyn (4 Ion - 26 Maw) llenwch ffurflen gais gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol https://www.rctcbc.gov.uk/ffurflenclwbbrecwast. Bydd modd i chi lenwi'r ffurflen o 7am, dydd Gwener 27 Tachwedd hyd at 5pm, dydd Gwener 4 Rhagfyr. Bydd nifer y lleoedd yn gyfyngedig er mwyn sicrhau bod modd cadw pellter cymdeithasol a rhoi mesurau hylendid a diogelu effeithiol ar waith. Bydd lleoedd yn cael eu blaenoriaethu ar sail amser derbyn y cais, a chewch wybod ar ddiwedd y cyfnod os buoch chi'n llwyddiannus neu'n aflwyddiannus. Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael eu rhoi ar restr wrth gefn a bydd diffyg presenoldeb yn arwain at ailddyrannu lleoedd. Sylwch, yng ngoleuni'r ddeddfwriaeth gyfredol mewn perthynas â chlybiau brecwast, does dim modd rhoi blaenoriaeth i grwpiau penodol (e.e. ymgeiswyr a fu'n aflwyddiannus yn y gorffennol, grwpiau agored i niwed neu weithwyr allweddol) gan mai bwriad y ddarpariaeth yma yw darparu brecwast iach i bob disgybl. Gan fod nifer y lleoedd yn gyfyngedig, peidiwch â gwneud cais oni bai fod wir angen mynediad at frecwast iach, am ddim, ar eich plentyn cyn dechrau'r diwrnod ysgol.

Top