Navigation
Home Page

Neges gan Andrew Morgan Arweinydd RCT

Yn dilyn y cynnydd sylweddol y nifer yr achosion Covid-19 yn Rhondda Cynon Taf, a bod y feirws yn lledaenu, bydd y mesurau pellach sydd wedi'u cyflwyno gan Lywodraeth Cymru yn cael eu gweithredu ledled Rhondda Cynon Taf o heno. Er mwyn helpu i leihau unrhyw drosglwyddiad posibl, cofiwch gadw bellter cymdeithasol y tu allan i dir yr ysgol a gwisgwch orchudd wyneb os oes modd, yn unol â chyngor y Cyngor i drigolion a gyhoeddwyd ddydd Iau, 10 Medi.  Os yw eich plant yn chwarae tu allan gyda'r nos neu ar benwythnosau, byddwch yn effro i bwy sydd gyda nhw a beth maen nhw'n ei wneud.  Mae cyfyngu ar nifer y bobl rydyn ni'n cymdeithasu â nhw, cadw pellter cymdeithasol a hyrwyddo mesurau hylendid effeithiol yn hanfodol er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo'r feirws.  Bydd yr adolygiad nesaf o gyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn digwydd ymhen pythefnos ac os ydyn ni am weld y mesurau yma'n cael eu llacio neu hyd yn oed eu dileu, yna mae angen i bob un ohonom chwarae ein rhan i leihau lledaeniad y Coronafeirws yn ein cymunedau a chadw pawb yn ddiogel
Top